Welsh Medium Secondary School for Merthyr Tudful!
The Issue
Please scroll down for English
Mae RhAG a’i phartneriaid yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ymrwymo i agor Ysgol Uwchradd Cyfrwng Gymraeg o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o fewn y deng mlynedd nesaf, neu’n gynt.
Ar hyn o bryd mae 490 o ddisgyblion ledled Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn teithio bob dydd i Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun (sydd i’r gogledd o Aberdâr) er mwyn derbyn eu haddysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun yn ysgol ffantastig ond mae niferoedd y disgyblion sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng nghymoedd Cynon a Merthyr yn cynyddu. Rhaid felly rhoi’r ystyriaeth ddyledus i’r cwestiwn: faint o le fydd ar gael yn yr ysgol yn y dyfodol?
Mae plant ardal Merthyr Tudful sy’n derbyn eu haddysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg dan anfantais o’u cymharu â’r sawl sy’n mynychu ysgolion uwchradd drwy gyfrwng y Saesneg. Mae Merthyr Tudful yn un o dri awdurdod lleol yng Nghymru heb ysgol uwchradd Gymraeg o fewn eu ffiniau.
Rydym o’r farn y dylid dechrau cynllunio AR UNWAITH er mwyn agor ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg ym Merthyr. Byddai’r ymrwymiad a’r cynllun ei hun yn rhoi digon o amser i Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun (a Chynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful) gynllunio ar gyfer y newid hwn wrth roi’r sicrwydd i rieni plant iau bod darpariaeth addysg uwchradd ar gyrraedd. Rydym yn ymwybodol fod hyd y daith i’r ysgol, a’i phellter, yn rhwystr i nifer o rieni sy’n anobeithio ynghylch anfon eu plant i ysgolion Cymraeg o’r cychwyn cyntaf. Credwn y byddai’r ymroddiad hwn yn ysgogi twf mewn addysg Gymraeg yn yr ardal.
Rydym yn galw ar holl drigolion Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i ymuno â ni ac arwyddo ein deiseb, p’un ai ydych yn siarad Cymraeg ai peidio. Hyd yn oed os nad oes gennych blant sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg mae angen eich cymorth chi arnom – mae’r ddeiseb hon yn gofyn am gyfiawnder i’n pobl ifainc a sicrhad twf yr iaith yn lleol.
Trwy arwyddo’r ddeiseb hon, fe wnawn ddangos i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful bod yno gefnogaeth ysgubol – ym mhob cwr o’r gymuned – dros Ysgol Uwchradd Gymraeg yn ein sir ni.
Diolch yn fawr iawn.
-----------------------------------------------------------------------------------------
Rhieni Dros Addsyg Cymraeg (RhAG) and partners are calling on Merthyr Tudful County Borough Council to commit to opening a Welsh Medium Secondary School within the Merthyr Borough within the next 10 years (or sooner).
Currently, 490 pupils from across the Merthyr Tudful area travel every day to Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun (north of Aberdare) to access Welsh Medium secondary provision.
YGG Rhydywaun is a fantastic school, however Welsh Medium education is growing within the Cynon and Merthyr valleys and due consideration must be given to future capacity. Pupils from Merthyr Tudful who are educated through the medium of Welsh are at a disadvantage compared to those who attend English Medium secondary schools. Merthyr Tudful is one of only three local authorities in Wales not to have a Welsh Medium secondary school.
We believe planning for a Welsh Medium secondary school to open in the Merthyr area should start immediately. This commitment and planning will give YGG Rhydywaun (and RCTCBC) adequate time to plan for this change whilst giving parents of younger children the reassurance that secondary provision will be forthcoming. Transport times and distance is known to be a major barrier for many parents who are discouraged from sending their children to Welsh Medium provision at the point of entry and we believe this commitment would therefore be a catalyst for growth.
We are calling on all residents of Merthyr Tudful to join us and sign this petition, regardless of whether or not you speak Welsh, or don’t have any children in Welsh Medium education, this petition is about equity for our young people and to secure the growth of the language locally.
By signing this petition, we will show MTCBC the overwhelming support from the all parts of our community that a Welsh Medium Secondary is needed.
Diolch yn fawr iawn.
926

Supporter Voices
Petition Updates
Share this petition
Petition created on 6 August 2024