Swyddog y Gymraeg llawn amser

Swyddog y Gymraeg llawn amser
The Issue
Ar hyn o bryd does gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd na Phrifysgol Caerdydd Swyddog y Gymraeg llawn amser. Er mai dyma Prifysgol fwyaf Cymru a hithau ym Mhrifddinas Cymru ac yn rhan o’r grŵp Russell, swydd ran-amser, ddi-dâl yw Swyddog y Gymraeg.
Gan mai dyma yw’r sefyllfa, anodd yw gallu cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg o ddydd i ddydd a sicrhau bod y Gymraeg yn amlwg o fewn yr Undeb ac yn ehangach i’n holl myfyrwyr. Does dim cefnogaeth lawn-amser nac ymwybyddiaeth ddigonol am y Gymraeg ac mae hyn yn cael effaith ar brofiad y myfyrwir o fewn y Brifysgol e.e. gwefan uniaith Saesneg sydd i’r Undeb.
Mae’n hen bryd ein bod yn cael Swyddog y Gymraeg llawn amser.
Wrth gyflwyno’r cynnig hwn rydym yn gobeithio cael cefnogaeth myfyrwyr, Yr Undeb a’r Brifysgol er mwyn sicrhau dyfodol mwy sicr i’r Gymraeg yn y brifysgol a thegwch i’w siaradwyr ymhlith y myfyrwyr.
Arwyddwch y ddeiseb hon er mwyn ein cefnogi â’r ymgyrch.
Diolch!!

Petition Closed
Share this petition
Petition Updates
Share this petition
Petition created on 18 November 2021